The lake at Cwmystradllyn
Cymdeithas Enweiriol Pwllheli a'r Cylch
Cymdeithas Enweiriol Pwllheli a'r Cylch
Cymdeithas Enweiriol Pwllheli a'r Cylch

Afonydd Erch a Rhydhir

Mae'r Afonydd Erch a Rhydhir yn llifio i mewn i'r harbwr ym Mhwllheli o'r dwyrain a'r gorllewin yn eu tro. Mae gan ddwy afon boblogaeth dda o Frithyll Brown gwyllt a rhediad da o Sewin o Fehefin hyd at Fedi. Mae'r prif rediad o Eog yn ymddangos yn hwyrach yn y flwyddyn ac felly mae'r tymor Eog yn ymestyn hyd at ddiwedd mis Hydref.

Mae'n bosibl pysgota am Frithyll mudol ac Eog yn yr afonydd hyn gan ddefnyddio pryf genwair, pluen neu bluen dro. Mepps yw'r dewis cyntaf fel pluen dro ar yr afonydh bach hyn, tra bod 'Teal Blue a Silver', 'Alexandra' a 'Hugh Falkus' Medicine Fly' yn boblogaidd gyda'r genwieriwr sydd yn pysgota â phlu am Sewin.

Mae angen amoch drwydded gwialen Asiantaeth yr Amgylchedd yn ogystal â thrwydded leol i bysgota'r afonydd hyn. Mae angen Trwydded Eog a Sewin i gymryd Eog neu Sewin, ond mae modd cymryd Brithyll Brown gyda Thrwydded ar gyfer brithyllod anfudol a physgod bras. Mae'n bosib cael trwydded gwialen ar lein ar wefan Asiantaeth yr Amgylchedd neu o'ch Swyddfa Bost. Rhaid cymryd sylw o unrhyw is-ddeddfau Asiantaeth yr Amgylchedd.

Mae defnydd da wedi'i wneud o gymorth ariannol oddi wrth Gronfa'r Loteri gan Gymdeithas Enweiriol Pwllheli a'r Cylch er mwyn eu cynorthwyo i gynnal a chadw glannau'r Afon Erch. Hefyd defnyddiwyd yr arian i adeiladu camfeydd a llwybrau er mewn darparu mynediad i'r mannau pysgota. Mae map ar gael sydd yn dangos y mannau ar yr Afon Erch sydd yn cael eu prydlesu gan Gymdeithas Enweiriol Pwllheli a'r Cylch gan y siopau sydd yn gwerthu trwyddedau pysgota. Yn anffodus, erbyn hyn mae'r rhan fwyaf o Afon Rhydhir wedi'i gorchuddio â thyfiant ac nid oes modd ei chyrraedd.

Er hynny, beth bynnag yw eich dewis, mae gennym ddigon o gyfleoedd i'r genweiriwr gêm.

Mwynhewch eich pysgota.