The lake at Cwmystradllyn
Cymdeithas Enweiriol Pwllheli a'r Cylch
Cymdeithas Enweiriol Pwllheli a'r Cylch
Cymdeithas Enweiriol Pwllheli a'r Cylch

Croesor i'r Cartref

Cymdeithas Enweiriol Pwllheli a'r Cylch

Cafwyd Cymdeithas 'Enweiriol Pwllheli a'r cylch ei ffurfio yn 1952 i sicrhau'r hawliau pysgota ar yr afonydd Erch a Rhydhir, a mae wedi tyfu o nerth i nerth. 'Roedd gorddiwesu hawliau pysgota Llyn Cwmystradllyn yn 1985 yn ddatblygiad naturiol i'r gymdeithas, a dyma, bellach ein prif bysgodfa.

Picture of angler.
Lleolir Llyn Cwmystradllyn yng nghornel dde-orllewinol Eryri, mae yn bysgodfa syfrdanol o hyfryd, gwyllt ond hawdd i fynd ati. Gan mai dyma'r dŵr llonydd agosaf at nyth Gweilch y Pysgod yn Aberglaslyn, rydym yn ystyried eu gwneud yn aelodau anrhydeddus.

Mae rheolau'r bysgodfa'n caniatáu defnyddio pluen, troellwr neu bryfaid genwair, sydd yn gwneud y llyn yn ddeniadol i enweirwyr na fyddai'n pysgota dyfroedd o'r math yma'n arferol.

Bydd y gymdeithas yn ychwanegu at y stoc anferth doreithiog o Frithill Brown gwyllt, gyda stociadau o Frithyll yr Enfys yn reolaidd drwy'r tymor.

Heb ei brofi eich hyn mae ansawdd y dŵr yn anodd i'w ddisgrifio, anhygoel, yn glir fel jin, hyd yn oed wedi glaw trwn a thywydd garw. Gall dŵr sy'n ymddangos tua 1 medr o ddyfnder fod yn 3 medr neu fwy o ddyfnder mewn gwirionedd. Byddwch yn ofalus.

Hyd yn oed os nad ydych am bysgota, mae'n werth ymweld â'r llyn hyfryd yma. Dewch draw efo'r teulu, defnyddiwch y byrddau picnic ger y maes parcio, neu ewch am dro. Mae nifer o lwybrau cyhoeddus yn agos at y llyn wedi eu nodi ar fapiau OS. Ond cofiwch fod hon yn ardal fynyddig a phellennig, mae'n rhaid cael dillad, esgidiau ac offer addas.

Mae afonydd Erch a Rhydhir yn llifo i mewn i harbwr Pwllheli. Rheolwn 6 milltir o bysgota ar yr Erch a 1 filltir ar y Rhydhir. Fel y rhan fwyaf o afonydd Cymru mea llai o Eogiaid a Sewin nag a geid yn y 1960au a'r 1970au ond mae yma dal rediad eithaf, a physgod glan o'r mor tan ddiwedd y tymor ar Hydref 31ain.

Bychan, ar y cyfan, yw'r Brithyll Brown yn yr afonydd hyn ond, gyda offer phluen byr ag ysgafn, maent yn rhoi sialens ddiddorol a mwynhad.